PET(4)-05-12 p19a

 

P-04-358 Ailgyflwyno Cymorth Cartref ar gyfer plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i ailgyflwyno cyllid i alluogi Cymorth Cartref Gwasanaeth Sbectrwm Awtistig Caerffili i barhau, fel ei fod ar gael i rieni plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Os na chaiff y gwasanaeth hwn ei ailgyflwyno, caiff hyn effaith andwyol ar blant sy’n awtistig, sy’n agored i niwed, drwy gydol eu blynyddoedd ffurfiannol a’u glaslencyndod. Sicrhewch nad yw rhieni plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig yn wynebu argyfwng.

Prif ddeisebydd: Ymgyrch Rhieni dros CASS

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 10 Ionawr 2012

Nifer y llofnodion: tua 375 o lofnodion ar-lein ac ar bapur

 

Gwybodaeth atodol:

Cynllun peilot oedd Gwasanaeth Sbectrwm Awtistig Caerffili (CASS), a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i gyfuno gwasanaethau allgymorth athrawon/cynorthwywyr dosbarth â chymorth yn y cartref a chymorth cyfathrebu i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Ers iddo ddechrau yn 2008, mae CASS wedi cael llwyddiant mawr wrth ddarparu cymorth i blant sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd, nid yn unig yn yr ysgol ond yn y cartref hefyd.

 

Ar ôl i grant Llywodraeth Cynulliad Cymru ddod i ben, gwnaethpwyd penderfyniad yn gynharach eleni y byddai’r adran addysg yn parhau i ariannu CASS. Arweiniodd hynny at ostyngiad yng nghyllideb CASS a lleihad yn nifer y staff yn nhîm CASS, ac ailstrwythurwyd y gwasanaeth a ddarperir. Er siom ddirfawr i deuluoedd ym mwrdeistref Caerffili sydd â phlant ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig, darperir cymorth yn y cartref dim ond os oes effaith sylweddol ar addysg yr unigolyn sydd ag anhwylder o’r fath. Er ein bod yn deall mai addysg yw’r flaenoriaeth yn awr gan mai o’r adran addysg y daw’r cyllid ar gyfer CASS, mae’r ffaith bod cymorth yn y cartref wedi cael ei ddileu yn golygu nad yw plant sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd yn cael cymorth gwerthfawr yn y cartref.

 

Mae’r cymorth yn y cartref a ddarperir gan CASS wedi helpu plant sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd (sydd yn aml yn teimlo fel pe baent wedi’u dieithrio ac mewn dryswch) drwy gyfrwng strategaethau tymor byr a thymor hir sy’n datblygu sgiliau sylfaenol bywyd y plant, ac sy’n rhoi cymorth perthnasol iddynt. Mae’r sgiliau hynny’n cynnwys bwyta, cysgu, a gwisgo, ynghyd â materion ymddygiadol llawer mwy cymhleth, sef disgyblu, sefyllfaoedd sy’n peri straen, ymddygiad ymosodol, a’r nifer o bryderon y mae plant sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd yn eu hwynebu yn eu bywyd pob dydd. Mae dileu’r gwasanaeth wedi golygu nad yw plant sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd yn cael cymorth yn y cartref, ac ni ddarperir gwasanaethau amgen. Mae risg y bydd nifer o’r teuluoedd yn wynebu argyfwng heb y cymorth gwerthfawr hwn. Mae tîm CASS yn arbenigwyr, ac mae eu profiad o weithio gyda phlant sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig wedi’i nodi fel enghraifft o arfer gorau yng Nghymru. O ganlyniad i bryderon rhieni ym mwrdeistref Caerffili, sefydlwyd Ymgyrch Rhieni dros Wasanaeth Sbectrwm Awtistig Caerffili i dynnu sylw at y rhesymau pam y dylid ailystyried y cyllid hwn. Mae’r ymgyrch yn gofyn am i gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru gael ei hailystyried er mwyn adfer y cymorth yn y cartref y mae ei angen yn ddirfawr, ac mae’n gofyn am i’r cymorth ariannol a roddir i’r gwasanaeth yn y tymor hir gael ei ystyried hefyd.

 

Drwy ei strategaeth i Gymru, sef y cyntaf o’i math yn y byd, a’r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd fis Chwefror eleni, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn gefnogol i’r agenda o roi cymorth i bobl sy’n dioddef o anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Er hynny, mae’r union wasanaethau rheng-flaen y mae teuluoedd sydd â phlant ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig yn dibynnu arnynt yn cael eu dileu yng Nghaerffili, ac mae enghreifftiau o arfer gorau a ddatblygwyd drwy’r strategaeth, gan gynnwys CASS, yn cael eu hanghofio.

 

Rydym ni, fel rhieni, yn erfyn yn daer ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried ein cais i sicrhau bod gan CASS ddyfodol, ac edrychwn ymlaen at gael eich ymateb.